Ymunwch a ni am barti
Y ffordd orau i fwynhau eich pen-blwydd neu ddathlu achlysur arbennig. Cewch barti yn yr LC a gadewch y gwaith tacluso wedyn i ni! 
Mae pob parti'n cynnwys:
· Gwahoddiadau LC
· Bwffe
· Gwesteiwr parti
· Gemau parti hwyl
· Ystafell barti wedi'i haddurno'n llawn â balwnau a baneri
· Cerdyn pen-blwydd (yn cael ei gyflwyno i'r bachgen/ferch sy'n dathlu'r pen-blwydd)
Ac, wrth gwrs, dewis o un o weithgareddau cyffrous yr LC o'r opsiynau isod:
Parti Parc Dŵr - defnydd heb gyfyngiad o'r Parc Dŵr gwych gan gynnwys y Masterblaster, yr Aquatube a'r Aquaslide (ac eithrio'r Boardrider) (2 awr)
Parti Chwarae - mynediad heb gyfyngiad i'r ardal chwarae rhyngweithiol (1 awr)
Parti'r Boardrider – mynediad arbennig i'r Surf Rider. Gan gynnwys hyfforddwr (45 mun)
Parti Dringo – mynediad arbennig i'r wal ddringo gan gynnwys sesiwn sefydlu lawn gyda hyfforddwr Dynamic Rock (1 awr)
Parti'r Neuadd Chwaraeon – dewiswch eich gweithgaredd o hwyl a sbri, pêl-droed neu amlgampau. Gan gynnwys hyfforddwr mewnol (1 awr)
Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw dewis eich pecyn parti, yr amser a'r dyddiad a rhoi gwybod i'ch ffrindiau - byddwn ni'n gwneud y gweddill.
Am fwy o wybodaeth neu i drefnu eich parti, ffoniwch a siarad ag un o'n Cydlynwyr Parti ar 01792 484714 neu e-bostiwch atom ar kidsparties@the-lc.co.uk.
