Dathlir Diwrnod Cenedlaethol y Plant mewn dros 50 o wledydd ledled y byd, gan gynnwys Seland Newydd, America, Gwlad Thai ac India; fodd bynnag, does dim diwrnod i ddathlu ein plant a'u cyfraniad at gymdeithas yn bodoli yng Nghymru, na'r DU.
Mae'r LC ar fin lansio Diwrnod Cenedlaethol cyntaf i blant yng Nghymru i gydnabod gwerth
plant, ac i annog rhieni i weld pwysigrwydd eu caru, eu diogelu a'u parchu, a threulio amser gyda hwy.
"Mae Tsieina'n dathlu Diwrnod Cenedlaethol y Plant drwy gael hanner diwrnod yn yr ysgolion, ac fel arfer yn cynnal gweithgareddau megis mynd i wersylla neu wylio ffilmiau am ddim, ac yn Nigeria dewisir plant i gynrychioli'u hysgolion mewn gorymdaith ar gyfer swyddogion y wladwriaeth."
Drwy hyrwyddo plant hapus ac iach, a chryfhau teuluoedd drwy gefnogi'n cymunedau lleol, gallwn gadw plant yn ddiogel ac iach. Rydym yn annog pob rhiant, teulu a chymuned i gymryd amser i ddathlu plant bob blwyddyn ar y diwrnod hwn.
"Mewn arolwg diweddar yn yr LC, dywedodd 80% o blant yr hoffent dreulio mwy o amser gyda'u rhieni."
"Wyddech chi fod rhieni'n treulio 20 munud yn unig ar gyfartaledd gyda'u plant bob dydd?"
Mae'r LC mewn partneriaeth â Hosbis Plant Tŷ Hafan, sef elusen swyddogol y digwyddiadau. Mae Tŷ Hafan yn darparu gofal a chefnogaeth i deuluoedd â phlant sydd â bywydau byr, gan wella ansawdd eu bywydau a deall gwir bwysigrwydd amser gyda phlant. Bydd yr LC yn dathlu'r diwrnod drwy agor ei drysau a'i holl weithgareddau i bawb, gan alluogi teuluoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda'i gilydd.
"Ym Mhacistan cynhelir gwasanaethau arbennig mewn ysgolion ar Ddiwrnod Cenedlaethol y Plant, ac yng Ngwlad Pwyl trefnir dathliadau mewn parciau a chanolfannau adloniant, gyda rhai rhieni'n rhoi anrhegion bach i'r plant."
Syrffio, dringo, siglo, nofio a chwarae am £4 yn unig!
"Byddai'n well gan 89% o blant dreulio diwrnod yn cael hwyl gyda'u rhieni na gwylio'r teledu neu chwarae gemau ar y cyfrifiadur."
Ymunwch â'r LC ddydd Sadwrn 17 Hydref a helpwch ni i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Plant yng Nghymru! Bydd yr LC yn llawn gweithgareddau i'r teulu cyfan. Am £4 yn unig yr un, gallwch roi cynnig ar ardal chwarae 4 llawr rhyngweithiol yr LC, wal ddringo 30 troedfedd, efelychydd syrffio dan do - y Boardrider, a phrofi prif atyniad yr LC -Parc Dŵr Yr Ymyl; heb sôn am y canlynol…
Pêl-droed i'r Teulu:
9am-10am: 3 - 4 oed. 10am-11am: 5 - 6 oed - Gall rhieni ymuno yn yr hwyl hefyd!
Dewch i ymuno â ni am sesiwn bêl-droed llawn hwyl gydag Arnie Actif! Ewch i weld newyddion diweddaraf Arnie yn www.abertaweactif.com
Ardal i Gefnogwyr y Gweilch! - 11am - 5pm
Dewch i gael tro ym Mhentref Chwythadwy'r Gweilch: Gydag Ymgiprys ar y Llinell Gais, Y Bosh Mawr, Rhedfa'r Bynji a Chawell Targed y Gweilch!
YN OGYSTAL ag ymddangosiadau gan sêr rygbi rhyngwladol newydd y clwb.
Dyma gyfle i chi gychwyn ar y daith i fod yn enwog gyda gweithdai drama, dawnsio a chanu...gyda Mark Jermin! O 12-4pm
Dewch i ymuno â'r Tîm Chwarae Plant ar gyfer sesiynau gwisg ffansi, sgiliau syrcas a drymiau o 10-4pm
Dewch i gael tro ar weithdai syrcas gyda syrcas cynhwysiad cymdeithasol ieuenctid lleol! Gemau parasiwt a chydweithio gyda Dymamix.
Sesiwn adrodd storïau a chreu mygydau gyda 'The Crowman' trwy garedigrwydd Llyfrgell Dinas Abertawe. Gwrando ar stori "The Golden Feather" a chreu eich mwgwd aderyn hudolus eich hun i fynd ag ef adref gyda chi. Cewch fwy o wybodaeth am "The Crowman" yn
Her Arddangosfa Trychfilod Plantasia rhwng 10am a 6pm
YN OGYSTAL Â... Hwyl peintio wynebau drwy'r dydd, darlledu byw gan Phil Hoyles a Johnny B o Sain Abertawe a The Wave gyda gwobrau gwych i'w hennill a chyfle i gael tro ar yr her Nintendo Wii! Os nad yw hynny'n ddigon, bydd pob plentyn yn derbyn BAG ANRHEGION AM DDIM!
Gwahoddir ysgolion i gasglu tocynnau Diwrnod Cenedlaethol y Plant yng Nghymru o’r Evening Post o 5 Hydref - os yw’ch dosbarth yn casglu 50 tocyn caiff ei gynnwys mewn cystadleuaeth am ddim i ennill taith i’r LC a fydd yn cynnwys cludiant a chinio!