Chwaraeon
Mae'r LC yn cynnwys neuadd chwaraeon ac arddangos amlbwrpas ddwbl i gynnal llawer o weithgareddau, digwyddiadau a chwaraeon ac fe'i henwyd yn un o Gyfleusterau Hyfforddi Swyddogol Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Mae'r LC yn cynnal gweithgareddau iau ac oedolion o drampolino a gymnasteg i bêl-fasged a phêl-droed. I weld y rhestr lawn, darllenwch lyfryn yr LC Popeth dan yr Unto, neu ar y we.
Mae'r LC hefyd yn gartref i Ysgol Berfformio Mark Jermin, Badminton Iâ,Pêl-fasged Storm a llawer mwy o glybiau ac ysgolion. Edrychwch ar y rhestr lawn o'r Clybiau a Chymdeithasau Chwaraeon yn yr LC i gael gwybod sut i gymryd rhan neu ddod â'ch clwb neu eich ysgol chi i'r LC.
Os ydych yn trefnu digwyddiad, arddangosfa, sioe neu gystadleuaeth chwaraeon yn y dyfodol agos, efallai bod tîm digwyddiadau'r LC yn gallu eich helpu: Digwyddiadau ac Achlysuron yn yr LC
Dydd Llun - dydd Gwener: 6.30am – 10.00pm
Dydd Sadwrn – dydd Sul: 8.00am – 9.00pm
Cwrt pêl-droed/pêl-fasged: £37.50 yr awr
Cwrt badminton: £8.00 yr awr
Cwrt tenis bwrdd: £5 yr awr
(Mae angen rhoi blaendal a ad-delir er mwyn defnyddio offer badminton/tenis bwrdd).
(Edrychwch yn llyfryn yr LC Popeth dan yr Unto am amserau a phrisiau gweithgareddau unigol)
Trefnwch eich ymweliad ymlaen llawn trwy ffonio 01792 466500 (opsiwn 2 yna opsiwn 6)
Mae pecynnau Trefnu Ymweliadau Grŵp ar gael i logi'r neuadd chwaraeon. Ffoniwch ein Tîm Trefnu Ymweliadau Grŵp ar 01792 848719 i ddod â'ch clwb neu'ch tîm i'r LC.

