Dringo

Am y profiad mwyaf trawiadol, dewch â'r holl deulu i Ddringo yn yr LC am ddiwrnod mas gwych!

Mae gan ein wal ddringo 30 tr 8 llinell a thros 20 llwybr gwahanol ar gyfer pob lefel o arbenigedd. A hefyd, oherwydd ein system sicrwydd awtomatig newydd, gallwch ddringo heb unrhyw help. (Wrth gwrs, byddwn ni yno o hyd os bydd angen help llaw arnoch!) Os ydych yn newydd i'r gweithgaredd neu'n arbenigwr, rydym yn gallu eich helpu i gyrraedd y brig!

A siarad am arbenigwyr, mae'r LC wedi ymuno â chanolfan ddringo dan do Dynamic Rock y mae ei hyfforddwyr cymwys yn gweithio yn yr LC i ddarparu gwersi a chyrsiau i'r rhai sydd am feistroli'r gamp. Dysgwch fwy am weithgareddau dringo'r LC trwy lawrlwytho llyfryn yr LC Popeth dan yr Unto. Neu gallwch chwilio trwy Weithgareddau'r LC ar y we.

Pen-blwydd ar y gorwel? Trowch eich gweithgaredd dringo'n barti!

Opening Times & Prices

Nos Lun – nos Fercher: 5.00pm – 6.00pm (sesiynau rhagflas dringo 30 munud)

Nos Iau - nos Wener 5.00pm - 7.00pm (sesiynau rhagflas dringo 30 munud)

Dydd Sadwrn – dydd Sul: 10.00am – 2.00pm (sesiynau rhagflas dringo 30 munud)

2.00pm - 4.00pm (Hwyl Dringo i'r Teulu)

Oedolion: £8.00 yr awr

Plant: £5.00 yr awr

Sesiynau rhagflas dringo: £3 y person

Trefnwch eich ymweliad ymlaen llawn trwy ffonio 01792 466500 (opsiwn 2 yna opsiwn 6)

More Information

Mae Dringo'n addas i blant 7 oed ac yn hŷn

Darperir yr holl gyfarpar.

Mae polisi cyflwyno ar waith.

Esgidiau: esgidiau ymarfer neu ddringo, dim esgidiau blaen agored