Craidd
Ymunwch â ni yng Nghraidd yr LC ar gyfer Chwarae, Dringo a Chwaraeon…
Gall anturiaethwyr ifanc siglo, dringo, neidio a sleidio yn ein hardal chwarae ryngweithiol 4 llawr ar thema dŵr neu gyrraedd uchelderau cyffrous newydd ar ein wal ddringo 30tr!
Os byddai'n well gennych gadw eich traed yn sych, mae ein neuadd chwaraeon amlbwrpas yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i bobl ifanc ac oedolion 7 niwrnod yr wythnos.
Edrychwch yn llyfryn yr LC Popeth dan yr Unto am restr lawn o bethau i'w gwneud!
Neu gallwch chwilio trwy Weithgareddau'r LC ar y we.
Cofiwch y gallwch drefnu unrhyw weithgaredd a welwch ymlaen llaw trwy ffonio 01792 466500 (opsiwn 2 yna opsiwn 6).

