Ymyl

Dewch i greu tonnau ym mharc dŵr gorau Abertawe! Gyda rhwydwaith cyffrous o byllau, reidiau a sleidiau gan gynnwys y Boardrider, mae rhywbeth yma at ddant pawb – y diwrnod mas gorau i'r teulu yn ne Cymru!

Mae'r Ymyl yn cynnwys y pwll tonnau poblogaidd a sleid enwog y Masterblaster, sleid yn null rheilffordd droellog sy'n saethu pobl ar gylch rwber i fyny ar ffrwd dŵr ac yna'n eu gadael i rym disgyrchiant!!

"Roedd Kaitlin yn dwlu arni. Roedd hi'n cicio ac yn chwerthin - roedd yn llawer o hwyl"

Ar ôl cael blas ar wefr y tonnau, rhowch gynnig ar y Boardrider dan do! Y cyntaf o'i bath yn y byd, mae'r Boardrider yn ffordd wych i blant ddysgu sgiliau syrffio – ac oedolion hefyd!

"Dw i'n dwlu ar reid y cylch rwber - dyna'r reid orau yn y byd!"

Parc dŵr yr LC yw'r lle i ddod ar draws Tommy'r Crwban Môr yn ymlacio ac yn cael hwyl. Dewch i weld Tommy a lawrlwytho gemau gwych Tommy yn ystod Amser Tommy!

Edrychwch yn llyfryn yr LC Popeth dan yr Unto sy'n cynnwys manylion llawn ein gweithgareddau pwll yn ystod y dydd a'n sesiynau parc dŵr!

Pen-blwydd ar y gorwel? Trowch eich ymweliad â'r parc dŵr yn barti!