Bwyta yn yr LC

Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a throchi yn awyrgylch cyffrous yr LC mewn un o ddau le bwyta...

Gall cwsmeriaid yr LC ymlacio a mwynhau amgylchedd ein Siop Goffi fywiog wedi'i gweddnewid yn ddiweddar. Mae'r ardal seddi cynllun agored yn y brif dderbynfa lle gall cwsmeriaid wylio'r byd yn mynd heibio trwy'r ffenestri sy'n ymestyn o'r llawr i'r nenfwd, a gwrando ar bob math o gerddoriaeth amrywiol.

Gyda'n cyfleuster Wi-Fi AM DDIM, gall cwsmeriaid fwynhau paned gwych o goffi tra'n syrffio'r we neu gwblhau unrhyw waith sydd ar ôl.

Mae'r fwydlen wedi'i hadnewyddu'n cynnwys amrywiaeth helaeth o flendiau coffi a the a dewis gwych o fyrbrydau sy'n cael eu paratoi'n ffres bob dydd. Am drêt ychwanegol, mae dewis o deisennau a danteithion crwst ac amrywiaeth o lyfnffrwythau hefyd ar gael.

Gyda'i soffas croesawgar a'i fwydlen flasus, byddwch yn dychwelyd bob dydd a byddwn yn eich gwobrwyo am eich teyrngarwch...

Bydd pob cwsmer yn derbyn cerdyn teyrngarwch. Bob tro byddwch yn prynu diod fawr dwym, byddwn yn rhoi stamp i chi. Os casglwch 4, byddwn yn rhoi diod AM DDIM i chi!!!Ar agor o 8am tan 8.30pm 7 niwrnod yr wythnos.

Bistro Ger y Pwll - Mae Bistro Ger y Pwll ar y llawr gwaelod, sy'n rhoi golwg gwych i gwsmeriaid dros y parc dŵr, yn cynnig amrywiaeth o ffefrynnau cartref i'r teulu, gan gynnwys pwdinau moethus. Mae'r bistro ger y pwll yn cynnig bwyd gwych o safon am brisiau sy'n ystyriol o deuluoedd.

Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 4.30pm - 9pm / Dydd Sadwrn a dydd Sul 11am - 7pm. Darperir prydau tan 30 munud cyn cau.

Mae amrywiaeth o ddiodydd alcoholig ar gael yn Bistro Ger y Pwll a'r Caffe Lolfa. Mae'r LC hefyd yn gallu darparu ar gyfer partïon a digwyddiadau ac yn gallu cynnig dewisiadau bwffe amrywiol. Ewch i'n tudalennau Digwyddiadau ac Achlysuron i ddysgu mwy.

Hefyd darperir peiriannau diodydd a ffynhonnau dŵr trwy gydol yr LC.

Edrychwch ar olygfeydd 360° dros ein Bistro Ger y Pwll a Siop Goffi