FAQs
- Beth sydd wedi’i gynnwys ym mhris y parc dŵr?
-
Mae profiad parc dŵr yr LC yn cynnwys mynediad heb gyfyngiad i'n dwy lithren ddŵr, y Master Blaster wefreiddiol (ewch â'r llif ar diwb rwber ar eich pen eich hun neu gyda ffrind), y pwll tonnau poblogaidd, afon ddiog, pwll chwarae rhyngweithiol, pwll lagŵn a phwll swigod. Caiff y pwll tonnau ei droi ymlaen oddeutu bob 30 munud yn ystod eich ymweliad dwy awr.
