Tudalen Dosbarthiadau Ffitrwydd
Mae canolfan ffitrwydd yr LC yn cynnig amrywiaeth helaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd a gynhelir mewn dwy stiwdio fawr sy'n cael eu hawyru. Mae'r Brig yn cynnig dros 65 o ddosbarthiadau ffitrwydd bob wythnos gan gynnwys dosbarth dringo unigryw a gynhelir ar ein wal ddringo 30 tr yn ogystal â nifer o ddosbarthiadau Troelli Keiser poblogaidd iawn a gynhelir yn ein Stiwdio Droelli bwrpasol.
Cynhelir dosbarthiadau ffitrwydd 7 niwrnod yr wythnos ac maent yn cynnig lefelau amrywiol ar gyfer pob gallu. Mae ein cydlynydd stiwdio ymroddedig yn sicrhau bod yr amserlen yn ehangu trwy'r amser a bod gennym yr hyfforddwyr ffitrwydd gorau'n arwain ein dosbarthiadau.
I weld rhestr lawn o'r dosbarthiadau ffitrwydd, edrychwch yn ein llyfryn Popeth dan yr Unto
Dydd Llun - dydd Gwener: 6.30am – 10.00pm
Dydd Sadwrn – dydd Sul (gan gynnwys gwyliau banc): 8.00am – 9.00pm
Mae aelodaeth o'r gampfa'n cynnwys yr holl ddosbarthiadau hyn. £4.10 y dosbarth i'r rhai nad ydynt yn aelodau.
Trefnwch eich gweithgaredd ymlaen llawn trwy ffonio 01792 466500 (ops. 2 yna ops. 6).
Argymhellir cadw lle.
Gallwch gadw lle ar gyfer dosbarthiadau hyd at 8 diwrnod ymlaen llaw.
Gall aelodau wneud hyn trwy ddefnyddio eu rhif aelodaeth LC a PIN personol 4 digid. Gall aelodau gael eu PIN gan dîm aelodaeth yr LC trwy ffonio 01792 466500 (Ops. 2 yna ops. 3).
Mae golygfeydd 360º o’r stiwdios ffitrwydd ar gael yma.
